DIGIO DANIEL A BLINO’R BLAENORIAID   gan Philip Lloyd

(ENGLISH SYNOPSIS OF DIGIO DANIEL A BLINO'R BLAENORIAID bottom of page)
 Seiliwyd yr ysgrif hon ar y ddarlith a draddodwyd gan yr awdur yn Llyfrgell Yr Wyddgrug ym 1992, set yr olaf yn y gyfres o ddarlithiau blynyddol a drefnwyd gan Bwyllgor Ystafell Goffa Daniel Owen.
 Ceir ynddi hanes dau gwmni drama: criw o aelodau ifainc capel yn Y Rhyl dan arweiniad athro ysgol a enynnodd lid arweinyddion lleol y Methodistiaid Calfinaidd,a chwmni proffesiynol a ddaeth dan lach uchel gyrff llywodraethol yr un enwad a’r Nofelydd ei hun. Sonnir hefyd am ddylanwad yr athro hwnnw, y cwmni proffesiynol a Daniel Owen ei hun ar dwfy ddrama yng Nghymru hyd at ganol y rhyfel byd cyntaf.
———————————————————————-
Lluniwyd sawl addasiad o brif nofelau Daniel Owen ar gyfer y teledu a’r theatr broffesiynol yn ystod y pum mlynedd ar hugain diwethaf. Cynhyrchodd y dramodydd John Gwilym Jones ei fersiwn o Enoc Huws yn gyfres deledu i’r BBC ym 1974, ac yna Gwen Tomos ym 1981.
Ym 1978 cyflwynwyd addasiad Saesneg Sion Eirian o Rhys Lewis yn Theatr Clwyd gan gwmni sefydlog y Theatr. ‘”Rhys Lewis ‘… contains some of Daniel’s most memorable characters “, meddai’r dramodydd yn y rhaglen, “and its vivid evocation of childhood memories is proof of the author’s compassionate sensitivity.”
 Yna, ym 1989, daeth Cwmni Theatr Gwynedd ag Enoc Huws ar ffurf drama gerdd gan William R. Lewis, Sioned Webb a Dewi Jones i Theatr Clwyd. “Ers blynyddoedd bellach yr ydw i wedi bod yn gredwr cryf mewn cyflwyno llenyddiaeth ein cenedl ar newydd wedd, ac mewn cyfrwng gwahanol”, meddai John Ogwen yn y rhaglen. A haerodd yr Athro Bedwyr Lewis Jones: “Fe fuasai’r teiliwr o’r Wyddgrug wrth ei fodd fod fersiwn newydd o Enoc Huws ar ffurf drama-gerdd yn diddanu a phigo cynulleidfa yn 1989.”
Ond roedd cynulleidfaoedd y wlad wedi mwynhau cyflwyniadau llwyfan o Rhys Lewis, Enoc Huws, a Gwen Tomos (a’r Dreflan yn ogystal) ymhell cyn amser John Gwilym Jones, Sion Eirian, William R. Lewis. Sioned Webb a Dewi Jones. Ym 1909 cyhoeddodd Cwmni Hughes a’i Fab, Wrecsam ‘yr unig drefniad awdurdodedig o Rhys Lewis wedi ei threfnu o ffug chwedl adnabyddus Daniel Owen. Wyddgrug’.
J.M.EDWARDS A CHWMNI TREFFYNNON
J. M.Edwards, Prifathro Ysgol Sir Treffynnon o 1904 hyd 1924 ac un o frodyr yr enwog O. M. Edwards, oedd piau’r ‘unig drefniad awdurdodedig” uchod. ac yn y rhagair mae’n egluro pam yr aeth ati i drefnu ei gyhoeddi. “Methais ufuddhau i ugeiniau o wahoddiadau I berfformio ‘Rhys Lewis’, oherwydd prinder amser”, meddai, gan gyfeirio at y cwmni drama roedd yntau’n gynhyrchydd arno – yr enwog Gwmni Treffynnon. Gwelir llun o’r aelodau yn eu gwisgoedd ar gyfer actio Rhys Lewis ar y tudalen nesaf.
Sonia’n ddigon diymhongar am ei addasiad. ond a ymlaen yn fwy hyderus i ganmol y cwmni:-
“Swynwyd miloedd yn nhrefi Gogledd Cymru a Lloegr gan y Ddrama hon, a chafwyd elw mawr at adgyweirio eglwysi, talu am gapelau, prynnu llyfrau i lyfrgelloedd, harddu cof-golofn Daniel Owen [1], ac achosion teilwng ereill.”
Ei obaith oedd’ “y bydd cyhoeddi’r addasiad yn symbyliad i’r Ddrama yng Nghymru, ac y bydd gan bob llan a thref gwmni yn actio Rhys Lewis er difyrrwch a budd i drigolion eu bro.”
J. M. EDWARDS A CHWMNI POBL IFANC CAPEL CLWYD STREET, Y RHYL
Mae’n amlwg, felly, fod croeso mawr i berfformiadau amatur o Rhys Lewis yng Nghymru ryw bymtheng mlynedd ar 61 marw Daniel Owen, a’r elw’n mynd at achosion da. Ond nid dyna oedd profiad J.M.Edwards i gyd pan oedd yn athro yn Ysgol Sir Y Rhyl ym 1903, y flwyddyn cyn iddo fynd yn Brifathro ar Ysgol Sir Treffynnon.
Digio Daniel
Mae’r hanes i’w gael yn y llyfr Banesy Ddrama Gymreig gan T.J. Williams a V Feirniadaeth ar y Gystadleuaeth Genedlaethol ynglyn ag Eisteddfod Bangor, 1915 (mwy am ail hanner y teitl maith yma yn y man). Pan ddeallodd J.M. fod y llyfr hwn i’w gyhoeddi, ysgrifennodd at yr awdur, gan hyderu: “feallai nad anniddorol f ai gennych gael ychydig o hanes fy helynt i . ” Cyrhaeddodd ei lythyr mewn pryd i’w gynnwys yn y llyfr.
Yn ei lythyr at T.J.Williams, adroddodd J.M. yr hanes amdano’i hun yn addasu Rhys Lewis ar gyfer y llwyfan ac yn cynhyrchu perfformiadau o’r addasiad gan gwmni o bobl ifanc Capel Clwyd Street, Y Rhyl ym 1903. Ond anghofiodd enwi’r cwmni, a pharodd hyn gryn ddryswch i awdur arall, sef D.R.Davies, yn ei Dau Gwmni Drama a’Rhys Lewis’ (Y Lienor, Haf 1951). Mae D.R.Davies yn rhoi’r argraff mai am Gwmni Treffynnon roedd J.M. yn son. Ond cadarnheir mai hanes pobl ifanc Capel Clwyd Street sydd yma gan yr hysbyseb o’r Rhyl Journal a welir ar y tudalen nesaf a chan y dyfyniadau isod o atgofion un o’r aelodau, sef Miss Margaret E. Jones (dyna oedd ei henw ar y pryd, cyn priodi), a chwaraeodd ran Mari Lewis [2]:-
  • “Athro oedd Mr. J. M.Edwards yn Ysgol Sir y Rhyl. Roedd yn gryf dros yr iaith Gymraeg, ac yn awyddus iawn i gael cwmni o bobl ieuanc a fyddai yn awyddus i gymmeryd rhan mewn drama.Bum llwyddiannus a chafodd amryw o bobl ieuanc yn barod i wneud eu rhan. Y Ddrama a ddewisodd Mr. J.M. oedd ‘Rhys Lewis’ gan y diweddar enwog Daniel Owen, Yr Wyddgrug.
  • “Roedd y rhan fwyaf o’r cwmni yn aelodau … yn yr un eglwys a Mr. Edwards sef eglwys y Methodistiaid Calfinaidd, Clwyd Street, Rhyl. Byddai y cwmni yn cyfarfod rhwy ddwywaith yn ystod yr wythnos yn yr ysgol sir ac ambell i dro yn nhy un o’r cwmni. Buont wrthi yn ddiwyd am rai wythnosau. Daeth yr amser iddynt fynd i roi eu perfformiad cyntaf yn Town Hall Y Rhyl … Cafodd y cwmni wrandawiad da a chefnogaeth y dyrfa a gwnaed elw ardderchog.
Digio Daniel2
“Amcan J.M. oedd rhoi yr elw tuag at gael llyfrgell i Eglwys Clwyd Street, ond roedd yno un hen gymmeriad na fynnai dderbyn yr un ddimau oddiwrth y fath beth a Drama [3]. Yn hytrach na’i dramgwyddo rhoddodd J.M. yr elw tuag at lyfrgell yr ysgol sir…
“Clywodd Colwyn Bay am y Ddrama a daeth cais at Mr. J.M. yn gofyn iddo a Fyddai’r cwmni yn barod i roi perfformiad yn Colwyn Bay am ddwy noson. Cawsant hwyl dda yno ac roeddynt yn teimlo eu traed o danynt erbyn hyn … Cafodd y cwmni wahoddiad wedyn i fynd i Ddinbych. Roedd y lie yno yn orlawn …
“Ar ol hyn roedd Mr. J.M.E. yn mynd gartref i Goed-y-Pry Bala am ei wyliau. Tra roedd yno anfonodd gerdyn rhyfedd iawn at un o’r cwmni. ac ymhen ychydig o ddyddiau wedyn cafodd … aelodau erei 11 gerdyn gyda’r geiriau canlynol:-
Digio Daniel3
”Roedd rhai o aelodau y Seiat Fisol wedi cael eu tramgwyddo yn fawr hefo’r Ddrama ac roedd J.M.E. wedi cael ei alw i fynd o flaen y Seiat Fisol yn Dinbych [4] ac wedyn yn Prestatyn, roeddynt yn mynd i ddiarddel yr holl gwmni. Hwyrach fod cynghorion diniwed Wil Bryan i Rhys Lewis yr hwn oedd yn mynd i’r Weinidogaeth wedi eu tramgwyddo. ‘Hwyrach’, meddai Wil. ‘y medra i roi cynghorion i ti na chei di mo honynt yn y Cyfarfod Misol …’
“Ni ch\d Mr. Edwards sylw o’r gorchymyn iddo ymddangos o flaen y seiat fisol, na run o’r cwmni chwaith. Roedd yr un a gymerai ran Bob Lewis yn fab i un o Weinidogion mwyaf parchus ac adnabyddus y Sir. … a’r un a gymerai ran Tomos Bartiey… yn fab i Weinidog , … ac roedd Margiad Pitars yn briod i’r Codwr Canu yn Clwyd Street…”
Yn ei lythyr at T.J.Williams, mae J.M.Edwards yn manylu mwy ynghylch ymyrraeth y Cyfarfodydd Misol ac yn dilyn yr hanes i’w ddiwedd: –
“Yr oedd dyled ar Gapel Stryd Henllan, Dinbych; awd yno, cymerodd yr Hen Gorff yr elw ond galwyd fi i gyfrif yng Nghyfarfod Misol Bodfari! Bu euro awyr yn hir yno yn fy absenoldeb ond gohiriwyd hyd Gyfarfod Misol Prestatyn. Nid euthum i hwnnw ychwaith. Wedi i’r mater gael ei drafod yn hir gadawyd ef ar y bwrdd am fod si ar led nad oedd yn ein bryd i actio mwy.”
Ond yr oedd yn eu bryd i actio mwy, oherwydd, fel mae J.M. yn adrodd with T.J.Williams:-
“Ysgrifenwyd at y papur newydd yn ddioed ein bod yn barod i actio gynted yr elai yr haf heibio.”
Fodd bynnag, erbyn Ionawr 1904 roedd J.M. wedi ymadael a’r Y Rhyl i fod yn Brifathro ar Ysgol Sir Treffynnon. Yn y man. sefydlodd y cwmni yn y dref honno a ddaeth mor enwog am berfformio Rhys Lewis.
 AP GLASLYN A CHWMNI TREFRIW, 1886/7
Hughes a’i Fab oedd piau’r hawlfraint ar Rhys Lewis er pan arwyddodd Daniel Owen gytundeb gyda nhw ym I 886. Mae’n debyg bod cwmni’au drama ledled y wlad yn ddigon parod i ofyn am ganiatad i lwyfannu addasiad J.M.Edwards a thalu’r ffi y gofynnid amdani. Ond pur wahanol bu’r berthynas rhwng Daniel Owen a’i gyhoeddwyr ar y naill law ac un cwmni arbennig ar y Haw arall ym misoedd cynnar 1 887.
Rhaid troi at lyfr T.J.Williams am yr hanes, a adroddir ar ffurf llythyr gan wr o’r enw John Owen, neu Ap Glaslyn, fel y ‘ i hadwaenid yn gyffredinol [5]. Atgofion personol am y cwmni drama arbennig hwnnw (a godwyd yn Nhrefriw, Dyffryn Conwy ym 1886) sydd yn y llythyr.
Credir bod nodweddion iachusol ffynnon Trefriw yn wybyddus er amser y Rhufeiniaid. Ond erbyn 1886 roedd y pentref wedi dod yn sba poblogaidd. Roedd y cwmni drama lleol wedi paratoi addasiad o Rhys Lewis ar gyfer y llwyfan. Fel hyn mae Ap Glaslyn yn dechrau’r hanes:-
“Gan fod Trefriw yn lie o atdyniad i ymwelwyr, cafodd yr aelodau gyfarwyddiadau a gwersi rhagorol gan ddynion o ddysg a gallu … ac ar anogaeth y dynion hynny aethant allan o’r terfynau pentrefol gan roddi gwledd amheuthyn … hyd yn nod i’r trefi mwyaf poblog.”
Un o’r ‘trefi mwyaf poblog’ oedd Bangor. Perfformiwyd y ddrama yn Neuadd y Penrhyn ar ddwy noson o flaen cynulleidfaoedd niferus, a’r elw’n mynd at glirio dyled Capel Lon y Popty. Daeth gwahoddiadau lu i roi’r ddrama mewn trefi a phentrefi ledled y Gogledd ac ar lannau Merswy. Cymaint oedd llwyddiant y cwmni fel y cymerodd yr aelodau’r cam aruthrol o droi’n broffesiynol, neu. fel y dywed Ap Glaslyn wrth T.J.Williams: “trefnwyd teithiau … ar eu ‘troed eu hunain’.”
Trefnwyd taith yn y Gogledd i ddechrau, gan ymweld a chynifer a chwech ar hugain o lefydd mewn cyfnod o chwe wythnos ym misoedd Chwefror a Mawrth 1887; yna bedair noson yn Lerpwl a Bootle ym mis Ebrill. Ap Glasyn oedd y goruchwyliwr a’r ‘Datgeinydd’. yn difyrru’r cynulleidfaoedd drwy ganu rhwng yractau.
Digio Daniel4Hysbyseb yn Y Genedl Gymreig am ran o daith Cwmni Trefriw drwy’r Gogledd ym 1887. Drwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru
BYGWTH Y GYFRAITH AR Y CWMNI
Yna daeth y bygythiad cyntaf. “Tra yr oedd y ddramod … yn anterth ei phoblogrwydd”, meddai Ap Glaslyn, “daeth rhybudd bygythiol i’r Cwmni am swm neilltuol o arian am ryddid i berfformio ‘Rhys Lewis’.” Oddi with Hughes a’i Fab daeth y rhybudd, yn 61 ei lythyr at T.J.Williams. Nage, meddai D.R.Davies, yn ei Dan Gwmni Drama a ‘Rhys Lewis‘: Daniel Owen ei hun a fynnodd dal gan Gwmni Trefriw, taerodd yntau, ar sail sgwrs hir a gafodd gydag Ap Glaslyn.
Pa fersiwn sy’n gywir: llythyr Ap Glaslyn at T.J.Williams neu adroddiad D.R.Davies ar eu sgwrs? Mae’n wir bod Daniel Owen yn flin iawn wrth Gwmni Trefriw. Pan oedden nhw ar ganol eu taith drwy’r Gogledd yn Chwefror/Mawrth 1887, ysgrifennodd at wr o Aberystwyth i roi sel ei fendith ar berfformiadau o Rhys Lewis ‘for any public or charitable object’. gan gydnabod na fedrai eu hatal beth bynnag, ‘owing to some quirk in the copyright law. ‘ Ond, ychwanegodd, roedd Cwmni Trefriw “about the country performing Rhys Lewis for their own benefit & that without my consent. If I had had the power I would have stopped them & I consider their action veiy mean. ” [6]
Pwy, felly, oedd piau’r hawl i fynnu’r ‘swm neilltuol’ hwn? A oedd hawl yn bod o gwbl? Dylid cofio yn y cyswllt yma fod Rhys Lewis wedi ymddangos deirgwaith mewn print erbyn dechrau 1887: fesul pennod yn Y Drysorfa, misolyn y Methodistiaid Calfinaidd, rhwng 1882 a 1885 yn gyntaf (ar anogaeth y Parchedig Roger Edwards, y Golygydd a gweinidog Daniel Owen); yna fel cyfrol a argraffwyd gan J.LI.Morris, Yr Wyddgrug ym 1885 ond a gyhoeddwyd gan Daniel Owen ar ei gost ei hun gyda nawdd tanysgrifwyr; ac yn drydydd y gyfrol a gyhoeddwyd gan Hughes a’i Fab ym 1886 ar 61 i’r nofelydd arwyddo’r cytundeb yn trosglwyddo’r hawlfraint iddyn nhw.
Deddf Hawlfraint 1842 oedd mewn grym yr adeg honno: roedd rhwydd hynt i rywun lunio addasiad llwyfan o nofel – ar yr amod nad oedd union eiriau’r gwreiddiol vn cael eu copio ‘[by] printing or otherwise multiplying’. Mewn achos Ilys ym 1 888, er enghraifft, dyfarnwyd o blaid cwmni Warne (cyhoeddwr y nofel Little Lord Fauntleroy gan Mrs. Francis Hodgson) yn erbyn Seebohm (‘a dramatic author’). Enillodd Warne yr achos am fod Seebohm wedi gwneud pedwar copi o’r sgript, yn cynnwys darnau sylweddol o’r nofel wreiddiol – un copi i’r Arglw^’dd Canghellor a thri i’r actorion [7].
Parodd y ‘rhybudd bygythiol’ gryn braw i Gwmni Trefriw. Ceisiwyd barn gyfreithiol.Y cyngor a gafwyd oedd i anwybyddu’r cais am dal, anfon copi ysgrifenedig o’r ‘ddramod’ i Stationer’s Hall a dal i berfformio. A hyn oil, meddai Ap Glaslyn, am fod y ddrama wedi’i seilio ar y fersiwn wreiddiol yn Y Drysorfa. Roedd hi wedi ymddangos fesul pennod ac nid fel nofel gyflawn, dan y teitl Hunansofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel (nad oedd iddo flas ‘ffug-chwedl’), ac wedi’i rhestru o dan ‘Adgofion ac Adroddiadau Addysgiadol’ (ymgais ar ran Roger Edwards, medd rhai, i oresgyn rhagfarn y rheini o’r darllenwyr a wrthwynebai ‘ffug-chwedlau’).
Pwy bynnag hawliodd y ‘swm neilltuol’ gan Gwmni Trefriw (ai Daniel Owen ynteu Hughes a’i Fab), pwy a wyr sut byddai Ilys barn wedi dyfarnu (o ystyried y quirk in the copyright law’)’? A phe bai’r dyfarniad wedi mynd yn erbyn y cwmni drama, pa obaith fyddai gan y nofelydd neu ei gyhoeddwyr ennill iawndal a oedd yn werth ymladd amdano?
BYGYTHIAD ARALL
Ymlaen a Chwmni Trefriw, felly, ar daith i’r De, a chael cryn hwyl ar yr actio i ddechrau. Ond roedd gwaeth i ddod! Yn Sir Y Fflint yr adeg honno, roedd yr agwedd a fyddai’n cael ei hamlygu chwe blynedd yn ddiweddarach gan ‘hen flaenor gonest’ Capel Clwyd Street yn fyw ac yn iach. Yng nghyfarfod misol Henaduriaeth Sir Fflint o’r Methodistiaid Calfinaidd pasiwyd i bwyso ar eu haelodau a’u gwrandawyr i gadw draw o berfformiadau Cwmni Trefriw, a chyflwynwyd y mater i sylw Cymdeithasfa’r enwad yn y Gogledd.
Cyfarfu’r Gymdeithasfa yng Nghorwen ddiwedd Ebrill, gan drafod cenadwri Sir Fflint. Er bod rhai anerchiadau’n fwy ymosodol na’i gilydd, mabwysiadwyd penderfyniad digon annelwig (ar sail y rheol yng Nghyffes Ffydd yr enwad am ymadael ag ‘arferion llygredig’ fel ‘chwareuyddiaethau’), gan ddatgan:-
“na byddo unrhyw gefnogaeth yn cael ei rhoddi i gyfarfodydd o natur ammheus, trwy eu cyhoeddi yn ein haddoldai, neu roddi unryw sylw cymeradwyol iddynt.”
Yn ogystal, penderfynwyd tynnu sylw holl henaduriaethau’r enwad at y datganiad. Dechreuodd taith Cwmni Trefriw yn y De yn dra Uwyddiannus. Ond bach iawn oedd y gynulleidfa yn y Temperance Hall ym Merthyr Tudful, ac mewn neuaddau eraill ar 61 hynny. Roedd yn amlwg bod cenadwri Sir Y Fflint a phenderfyniad Corwen wedi dylanwadu’n drwm ar gapeli’r enwad yn Sir Forgannwg; ond, fel y dywed Ap Glaslyn wrth T.J.Williams: “cymerodd y Western Mail at amddiffyn y Cwmni a’r Ddrama, ac yr oedd llythyrau rhai gohebwyr, yn enwedig ‘Morien’ [8], yn ddau-finiog mewn llymder, ac yn anorchfygol mewn ymresymiad.”
Doedd dim amdani, felly, ond dirwyn y daith i ben. “Bu raid i rai o honnom mewn canlyniad”, meddai Ap Glaslyn, “droi allan i gynnal cyfarfodydd dirwestol a chyngherddau er mwyn cael moddion cynhaliaeth a chlirio ein ffordd yn ol tua’r Gogledd”, a chael bod drama Rhys Lewis “mewn bri a mawrhad, yny Bala, ac yn cael ei hyrwyddo yn mlaen mewn rhan gan rai o arweinwyr y Cyfundeb Methodistaidd yn y lie.”
Dyna ddiwedd trist i fenter arloesol. Mae’n rhaid bod aelodau’r cwmni wedi’u siomi’n arw. Ond gadawodd taith 1887 ei hoi, fel mae hanes y gystadleuaeth sy’n destun ail ran llyfr T.J.Williams yn dangos.
CYSTADLEUAETH EISTEDDFOD 1915
Cynhaliwyd cystadleuaeth ysgrifennu drama yn yr Eisteddfod Genedlaethol mor gynnar a 1849, pryd y gwobrwywyd Pedr Morgan yn Aberffraw am ei gyfieithiad o King Henry IV. Bu bwlch tan Eisteddfod Lerpwl (1884): cyfieithiad arall {King Lear) a drama wreiddiol (Gruffydd ab Cynan) aeth a hi yno.
Yna, o!885 ymlaen gwobrwywyd drama Gymraeg wreiddiol yn flynyddol (ac eithrio ambell flwyddyn pan nad oedd neb yn deilwng). Ond ar gyfer Eisteddfod Bangor (1914) trefnwyd math newydd o gystadleuaeth – llwyfannu drama. Gohiriwyd yr Eisteddfod tan 1915 oherwydd y rhyfel, ond roedd y beirniaid wedi teithio’r wlad yn gwylio 19 o gwmni’au’n perfformio yn eu broydd eu hunain rhwng Tachwedd 1913 a Mawrth 1914.
Roedd hon y gystadleuaeth wirioneddol genedlaethol: 19 o gwmn’i’au yn cymryd rhan – naw ohonyn nhw o’r Gogledd-Orllewin, pump o ardal Wrecsam a phump o gymoedd Taf a Rhondda. Cwmni Caernarfon enillodd, gyda pherfformiad o Beddau’r Prqffwydigan W. J.Gruffydd. Capel Bethlehem, Gwaelod-y-garth ddaeth yn ail, gydag Asgre Lan, o waith eu gweinidog y Parchedig R.G. Berry (roedd y ddrama hon wedi dod yn gyfartal gyntaf gyda dwy ddrama arall yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin, 1911).
 O’r 19 cwmni a fu’n cystadlu, roedd deg yn ddyledus mewn ryw ffordd neu’i gilydd i Daniel Owen neu i Gwmni Trefriw. Rhys Lewis oedd dewis Cwmni Barlwyd (Tanygrisiau) ac un o’r ddau gwmni o Gefn-mawr ar gyfer y gystadleuaeth. Addasiad T.Howells a J.Milwyn Howells o Enoc Huws a berfformiwyd gan Don Pentre (addasiad a oedd wedi cael ei gyhoeddi gan Hughes a’i Fab ym 1914), ac roedd y ddau’n actio gyda’r cwmni yn y gystadleuaeth).
Mae T.J.Williams yn rhoi braslun o hanes pob cwmni a fu’n cystadlu. Rhys Lewis oedd cynhyrchiad cyntaf Cwmni’au Padarn, Llandegfan ac Aberdar (ac Aberdar wedi ei pherfformio chwech ar hugain o weithiau yng nghymoedd Cynon, Rhondda a Thaf, ac yng Nghaerdydd a’r Barri). Tystiodd Cwmni’au Barlwyd, Ton Pentre, Caernarfon a’r ddau gwmni o Rosllannerchrugog mai Cwmni Trefriw oedd y cyntaf i Iwyfannu drama yn eu hardaloedd nhw. Cofiai aelodau Ton-pentre am yr helynt a achoswyd i’r cwmni ganddatganiad Cymdeithasfa Corwen:-
“Ni chawsant y gefnogaeth oeddynt yn haeddu, meddir, a mawr oedd y dwndwr gan yr hen Biwritaniaid fod y fath ‘giwaid’ yn dod o amgylch y wlad.”
Ond erbyn 1915 roedd agweddau wedi newid yn ddirfawr. Fel y dywed T.J.Williams:-
“Yn y gystadleuaeth Genedlaethol yr oedd braidd yn oil, os nad yr oil o aelodau rhai o’r cwmniau yn aelodau blaenllaw a dichlynaidd mewn gwahanol eglwysi. Yr oedd dau gwmni yn perthyn i’r
Annibynwyr, dau i’r Methodistiaid, dau i’r Bedyddwyr, ac un i’r Eglwys Sefydledig, a gwelem gyda phleser fod y gweinidogion yn cymeryd dyddordeb dwfn ynddynt … Dyma un o arwyddionyr amserau. Collodd yr Eglwys gyfleusterau yn y gorphenol a bu’r canlyniadau yn andwyol… Dymunwn apelio yn daer at weinidogion ac eglwysi. Dyma unwaith eto gyfleustra oes. Er dim peidied a’i golii.”
BARN DANIEL OWEN
Beth fyddai barn Danie! Owen wedi bod am yr holl addasu yma ar ei waith – yn amatur ac yn broffesiynol – ar gyfer y llwyfan a’r teledu? Mae Isaac Foulkes, Lerpwl yn crybwyll y pwnc yn ‘Ol-nodiadau’ ei gofiant Daniel Owen y Nofelydd (1903) mewn ffordd annelwig a diplomataidd, braidd:-
  • “Beth am eu dramadegu? Ydyw’r Cymry yn aeddfed i’r math hwn o fwyniant llenyddol? … Rai blynyddoedd yn ol, cyn marw awdwr Rhys Lewis, bu cwmni yn ei actio yn Lerpwl a manau eraill; ac yr oedd yn ddigon difyr a diniwed. Ystyriai DANIEL OWEN y symudiad yn gryn gompliment iddo ef yn bersonol; ond am ryw reswm neu gilydd ni pharhaodd y difyrwch yn hir.”
Roedd cofiannydd Daniel Owen yn Olygydd Y Cymro – y papur a gyhoeddodd Enoc Huws a Gwen Tomos gyntaf, fesul pennod. Mae’n anodd credu nad oedd wedi clywed am helynt Cwmni Trefriw parthed hawlfraint a gwrthwynebiadau eglwysig. Ond y mae yr holl addasu a fu ar Rhys Lewis, Enoc Huws, Gwen Tomos a’r Dreflan yn ‘gryn compliment’ i’r Nofelydd – yn enwedig yr addasu ar gyfer cyfryngau torfol degawdau olaf yr ugeinfed ganrif.
NODIADAU
  1. Ariannwyd cofgolofn Daniel Owen (o waith Syr W. Goscombe John) drwy gronfa genedlaethol, a’i chodi yn Yr Wyddgrug ym 1901.
  1. Rhoddodd Margaret E. Jones yr atgofion hyn ar gof a chadw yn y pumdegau yng nghefn llyfr ysgrifennu sy’n cynnwys llinellau ‘Margiad Pitars’ o addasiad J.M.Edwards, ond erbyn hynny roedd hi’n Mrs. J.A.Jones. Ysgrifennodd yr hanes ar gyfer sgwrs a oedd i’w rhoi i chwiorydd Capel Heol Crw7S, Caerdydd gan ei merch-yng-nghyfraith, Mrs. Betty Wyn Jones. Fodd bynnag, nid ar sail y fersiwn hon y rhoddwyd y sgwrs, ond ar sail ail fersiwn ar ffurf llythyr oddi wrth ei mam-yng-nghyfraith. Dangoswyd y fersiwn wreiddiol imi gan Mrs. Alltwen Jones, Yr Wyddgrug (merch Mrs. J.A.Jones); erbyn hyn mae’n ddiogel yn Archifdy Sir Y Fflint.
  1. Mae J.M.Edwards yn dweud yn blaen mai un o flaenoriaid Cape! Clwyd Street a wrthwynebai dderbyn yr elw: “… da y cofiaf ddagrau gonest yr hen flaenor a’i ddwylaw i fyny mewn arswyd …”
  1. Cyfarfod Misol Henaduriaeth Dyffryn Clwyd o’r Methodistiaid Calfinaidd oedd hwn: ei gynnal nid yn Ninbych ond ym Modfari y tro hwnnw, fel mae’r cerdyn ‘er cof yn awgrymu (Dylid nodi nad yw cofnod Mrs. Jones o’r geiriau yn union yr un fath a’r cofnod gan J.M.E. yn ei lythyr at T.J. Williams).
  1. Ap Glaslyn. Dyma gymeriad lliwgar: ei eni ym Meddgelert ym 1857, yn fab i’r bardd a’r lienor Richard Jones Owen (Glaslyn). Bu’n chwarelwr yn ardaloedd Ffestiniog a Llanberis, yn filwyr gyda’r Milisia ac yn ganwr gyda Chwmni Opera Carl Rosa. Enillodd drwydded fel actiwr ac adroddwr drwy arholiad yn Lerpwl ym 1885. Bu’n areithiwr dylanwadol ar lwyfan dirwest. Fe’i hordeiniwyd yn weinidog gyda’r Methodistiaid Calfinaidd ym 1919, a bu’n gofalu am gapeli yng nghymoedd glofaol y De. Bu farw ym 1934.
  1. Rydw i’n ddiolchgar i’r Prifardd Einion Evans am gael gwybod am y llythyr hwn. Bu ei ferch, y ddiweddar Ennis Evans, yn ymchwilio i fyw7d a gwaith Daniel Owen yng Ngholeg Bangor. Er iddi farw cyn cwblhau ei gwaith, bu ei thad yn ddigon caredig i rannu gwybodaeth am y llythyr (ac am eitemau eraill) gyda rhai ohonom a oedd yn paratoi arddangosfa ar Daniel Owen yn Llyfrgell Yr Wyddgrug pan ddaeth y Brifwyl i’r dref ym 1991.
  1. Rydw i’n ddiolchgar i’r Bargyfreithiwr Gareth Thomas, A.S. am wybodaeth arbenigpl am y Ddeddf Hawlfraint (fel y bu yn amser Daniel Owen) ac am achosion Ilys a gododd yn ei sgil. Prysuraf i ychwanegu mai fi sydd piau’r casgliadau tybiaethol a geir yn y paragraffau dilynol.
  1. Newyddiadurwr gyda’r Western Mail oedd ‘Morien’ (Owen Morgan), yn enedigol o blwyf Ystradyfodwg yn y Rhondda ac yn fab i lowr.
——————————————————
ENGLISH SYNOPSIS OF DIGIO DANIEL A BLINO’R BLAENORIAID
 The title of Philip Lloyd’s article Digio Daniel a Blino’r Blaenoriaid (the Daniel in question being Mold’s celebrated novelist Daniel Owen) might be loosely translated as Daniel Dismayed and Deacons Distraught. It is based on the lecture which he delivered at Mold Library in 1992 (the last in the annual series arranged by the Daniel Owen Memorial Room Committee) and deals mainly with two contrasting drama companies who staged adaptations of Daniel Owen’s novel Rhys Lewis.
 First: in 1903, a local teacher wrote and produced a dramatic version of Daniel Owen’s novel Rhys Lewis for the young people of Clwyd Street Chapel, Rhyl with the intention of raising money for the chapel library. However, in deference to the strongly-expressed disapproval of one elderly deacon, the proceeds of the performance were donated to Rhyl Count)’ School for a similar purpose.
Later, to the initial dismay of the young performers (and the studied indifference of their writer/producer), their efforts were roundly criticised by the Vale of Clwyd Presbytery meeting of the Calvinistic Methodists (to which Clwyd Street Chapel belonged, and still does). The writer/producer was J. M. Edwards, who became Head of Holywell County School in the following year. His better-known brother was Owen M.Edwards, Oxford don, Chief Inspector of Schools for Wales and sometime M.P. for Merioneth.
Second: during 1886 the newly-established Trefriw Dramatic Society performed their own version of Rhys Lewis throughout north Wales and Merseyside for numerous charitable causes. Early in the following year they turned professional, undertaking what was intended to be a grand national tour.
Unfortunately, their activities had come to the notice of both the higher governmental echelons of the Calvinistic Methodists and Daniel Owen himself. The influence of the former led to the sudden curtailment of the tour, and the author’s objections on copyright grounds (not, in the event, pursued in court) came as an unwelcome shock.
However: by 1915, Drama had attained a position of respectability in Wales. Of the nineteen amateur companies who participated in the National Eisteddfod drama competition of that year, three presented either Rhys Lewis or Enoc Huws, another three reported that Rhys Lewis was the first drama they had performed, while five noted that the Trefriw Company was the first ever to visit their respective areas.
One of the adjudicators went as far as to say:-
“… nearly all, i f not all the members of the [participating] companies were prominent and worthy members of various denominations. Two of the companies belonged to the Congregationalists, two to the Methodists, two to the Baptists, and one to the Established Church, and we noted with pleasure that the ministers took a great interest in them.”
POSTSCRIPT
Bethesda Chapel Drama Party, 1922. Typical of this new-found respectability was the 1922 stage presentation of Rhys Lewis by the Drama Party of Bethesda Chapel, Mold (where Daniel Owen had worshipped). A newspaper report relates that the party gave about 30 performances during the year throughout their home county of Flintshire and in neighbouring Denbighshire and Montgomeryshire.
The photograph below (reproduced by courtesy of Miss Rhiannon Griffiths, a member of both Bethesda Chapel and Mold Civic Society) shows the Bethesda Party in costume, ready to perform a stage adaptation of Rhys Lewis.
‘Rhys Lewis’ and ‘Mari Lewis’ (his mother) are in the centre of the front row. Standing at the rear, ‘Sergeant Williams’, the gamekeeper and the college professor can be identified by their dress etc., as can ‘Bob’ (Rhys’ coalminer-hero brother). ‘Wil Bryan’, at the end of the front row, is easily recognised by his raffish attire. Next to him is his sweetheart ‘Sus’, played by the then Miss Jennie Jones (later to become Mrs. Griffiths and Rhiannon Griffiths’ mother).

Digio Daniel5

Bethesda Chapel Drama Party in Rhys Lewis, 1922. © Rhiannon Griffiths, 10 Avon Court, Mold
The actors seated in the front row are (left to right): Mabel Owen, Miss H.M.Hughes, John Rich, Mrs. J.E.Morris, Jennie Jones, William Rees Roberts
Standing at the rear (left to right): James Hughes, Gordon Jones (Woodlands), Owen Roberts, J.E.Morris, Hilda Humphreys, Eddie Peters, Richard Jones

 

Copyright of articles
published in Ystrad Alun lies with the Mold Civic Society and individual contributors.
Contents and opinions expressed therein
remains the responsibility of individual authors.